EIS(5)-03-19(P3)cid:image005.jpg@01D3E853.59208770

 

 

 

 

 

 

 

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

31 Ionawr 2019

 

Diweddariad ynghylch Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

Map Ffyrdd a Sefyllfa Bresennol y Fargen Twf

 

Cefndir

Ym mis Gorffennaf 2017, estynnodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wahoddiad yn ceisio barn ynghylch Bargeinion Dinesig ac economïau rhanbarthol Cymru.  Fel rhan o'r ymholiad ystyriwyd i ba raddau y gallai dull bargen twf ar batrwm tebyg fod o fudd i Ganolbarth Cymru.

Esboniwyd bod Tyfu Canolbarth Cymru yn bartneriaeth economaidd ranbarthol gynhwysol a threfniant ymgysylltu rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, ac mae’n un o bedair partneriaeth ar draws Cymru.  Wedi’i sefydlu yn 2015, ei nod yw cynrychioli buddiannau’r rhanbarth a hyrwyddo blaenoriaethau er mwyn gwella ein heconomi leol.  Pwrpas y bartneriaeth yw galluogi’r rhanbarth i gyflawni’i rôl fel pwerdy gwledig Cymru.

 

Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu dull gweithredu bargen twf ar gyfer Canolbarth Cymru, ac mae'n credu bod dull gweithredu rhanbarthol o'r fath yn hanfodol ar gyfer datblygu economaidd oherwydd natur unigryw economi'r Canolbarth, ei dibyniaeth strwythurol ar y sectorau amaeth a thwristiaeth, y boblogaeth wasgaredig, y cyfraddau cynhyrchiant isel yn hanesyddol a'r gyfran uchel o fusnesau bach a chanolig.  Prin iawn y gwelir y ffactorau hyn mewn unrhyw le arall ar raddfa mor fawr.

Ar y pryd roedd Tyfu Canolbarth Cymru yn datblygu dull gweithredu rhaglen i gyd-fynd â’r cyfleoedd sylweddol oedd yn seiliedig ar y sectorau yn y rhanbarth.  Roedd hwn wedi canolbwyntio ar adeiladu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein themâu er mwyn sicrhau y gallwn symud ymlaen gyda chynnig neu gynigion a allai gefnogi rhaglen yn cynnwys elfennau priodol ar gyfer Bargen Twf.

Mewn cyd-destun cenedlaethol, byddai bargen twf ar gyfer Canolbarth Cymru yn golygu mabwysiadu dull gweithredu cyson ar draws Cymru o ran cymorth ariannol a datganoli pwerau i'r rhanbarthau.

Yn dilyn hyn cafodd Tyfu Canolbarth Cymru ei wahodd i baratoi cais ar gyfer Bargen Twf ac mae gwaith wedi mynd rhagddo gyda sefydliadau partner, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithredu ar hyn.  Byddai cynnig llwyddiannus ar gyfer Canolbarth Cymru yn gweld pob rhan o Gymru yn elwa o fargen twf Llywodraeth y DU.

Y Sefyllfa Bresennol

Yn 2018 cafodd AECOM ei gomisiynu gan Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru i lunio papur ar Strategaeth Economaidd ar gyfer y rhanbarth.  Mae'r strategaeth yn cyflwyno gweledigaeth a'r blaenoriaethau ar gyfer rhanbarth Canolbarth Cymru am y 15 mlynedd nesaf.  Gweithredir ar y blaenoriaethau hyn trwy gyfrwng tair thema ac wyth rhaglen o brosiectau er mwyn trawsnewid yr economi ranbarthol.

Ein Gweledigaeth ar gyfer Rhanbarth Canolbarth Cymru yw:-

Rhanbarth mentrus ac unigryw sy'n darparu twf economaidd, sy’n cael ei gyrru gan arloesedd, sgiliau, cysylltedd a swyddi mwy cynhyrchiol sy'n cefnogi cymunedau llewyrchus a dwyieithog.

Tair Thema ac Wyth Rhaglen y Strategaeth Economaidd Ranbarthol yw:-

Ø  Canolbarth Cymru Arloesol a Medrus

      Sgiliau

      Arloesedd

Ø  Canolbarth Cymru Cystadleuol a Chynaliadwy

      Busnes

      Ynni

      Eiddo

Ø  Canolbarth Cymru Cysylltiedig ac Unigryw

      Trafnidiaeth

      Digidol

      Lle

 

Un cyfle allweddol ar gyfer 2019 yw sicrhau Bargen Twf ar gyfer Canolbarth Cymru sy'n creu twf economaidd trawsnewidiol ar gyfer y rhanbarth ac sy'n cyfateb â blaenoriaethau a rhaglen waith ehangach y bydd y Bartneriaeth yn gweithredu arnynt trwy'r Strategaeth Economaidd Ranbarthol.

Mae'r dangosyddion gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn ogystal â dadansoddiad o faint bargeinion blaenorol fesul gwerth ychwanegol gros a phoblogaeth yn awgrymu bod uchelgais Bargen Twf o £200m o gyllid yn un y gellir ei wireddu.

Mae Bargeinion Twf blaenorol a phrofiadau Bargen Twf Gogledd Cymru yn awgrymu'n gryf mai un rhaglen o brosiectau o fewn lleiafswm o bedair thema yn canolbwyntio ar nifer fach o ganlyniadau economaidd sy'n gyson yn strategol yw'r un mwyaf tebygol o lwyddo.

Rydym yn ymwybodol hefyd fod cyfranogiad a galw yn y sector preifat yn ffactor mawr o ran cyllido Bargen Twf yn llwyddiannus a gwireddu canlyniadau.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio trwy gam un y broses o gael Bargen Twf ar gyfer Rhanbarth Canolbarth Cymru.  Rydym yn disgwyl y bydd cam un yn mynd â ni hyd at yr hydref pan fyddwn yn gobeithio cael cyhoeddiad ynghylch pennawd y telerau.  Gwerthfawrogwn fod hon yn amserlen dynn iawn ond teimlwn ei bod hi'n well cael amser penodol i'w anelu ato.  Disgwylir i gam un roi sylw i'r gweithgareddau canlynol:-

Amserlen/Proses - Cam Un

      Cadarnhau'r Cyd-destun Strategol (cynnig AECOM).

      Cadarnhau'r Dull Llywodraethu Strategol – gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid.

      Disgrifio'r amrywiaeth o lwybrau cyllid a chadarnhau pa brosiectau ddylai gael eu cyllido trwy ba lwybr - bargen twf, bargeinion sector ac ati.

      Cytuno ar y prosiectau/pecynnau ar y cyd cychwynnol ar gyfer y fargen twf.

      Comisiynu Achos Busnes Amlinellol ar gyfer pob prosiect/pecyn.

      Cwblhau'r Ddogfen Cynnig ddrafft Awst/Medi 2019.

      Cyflwyno'r Cynnig ym Medi/Hydref 2019 gan arwain at gyhoeddiad gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ddiwedd Hydref 2019.

Os bydd cam un yn llwyddiannus, disgwyliwn y bydd yn cymryd y rhan fwyaf o 2020 i gwblhau cam dau, a gobeithiwn gael setliad ariannol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru erbyn yr hydref 2020.

Amserlen/Proses - Cam Dau - Tachwedd 2019 Ymlaen

      Comisiynu a chynnal Achosion Busnes Llawn ar gyfer pob prosiect/pecyn.

      Cyflenwi'r rhaglen gan gynnwys monitro a gwerthuso.

Llywodraethu

Mae cyfarfod blaenorol o'r Cyd-Gabinet Anffurfiol wedi ystyried yr opsiynau o ran llywodraethu ac wedi datgan mai'r dewis a ffefrir yw cael Cyd-bwyllgor gydag aelodaeth gyfartal o Gynghorwyr o bob Awdurdod, ynghyd â Chadeirydd o'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn cynrychioli busnes preifat.  Byddai dau Arweinydd y Cyngor yn gyd-Gadeiryddion y Cyd-bwyllgor, a statws sylwedydd yn unig fyddai gan y rhanddeiliaid eraill.

Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi datgan yn anffurfiol y dylai'r model hwn gael sêl bendith gweinidogol.

Er mwyn cefnogi'r opsiwn llywodraethu a ddewiswyd, rydym wedi sefydlu tîm gweithredol o uwch swyddogion a fydd hefyd yn cefnogi'r gwaith o reoli swyddfa'r rhaglen yr ydym wrthi'n ei sefydlu.  Bydd swyddfa'r rhaglen yn canolbwyntio ar benderfyniadau gweithredol a’u cyflenwi.  Rydym hefyd yn agos at gadarnhau ein cynigion ar gyfer aelodaeth o Fwrdd Strategaeth Economaidd y sector preifat.  Bydd hyd at 10 o bobl busnes ar y bwrdd hwn yn cynrychioli Rhanbarth Canolbarth Cymru, gyda chadeirydd annibynnol a fydd yn aelod llawn o'r Cyd-bwyllgor.  Grŵp rhanddeiliaid allweddol yw hwn sy'n helpu i lunio a datblygu'r prosiectau strategol ar gyfer y Fargen Twf.  Disgwyliwn i fusnesau eraill gymryd rhan hefyd gyda'r ffrydiau gwaith ar y prosiectau amrywiol.

Mae Cytundeb Rhyng-Awdurdod drafft wedi cael ei baratoi ac rydym wrthi'n trafod y rolau ar gyfer y corff atebol a'r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Cyd-bwyllgor.  Ar yr un pryd rydym wedi amlinellu cylch gorchwyl drafft ar gyfer y Bwrdd Strategaeth Economaidd ac wedi amlinellu agenda ddrafft ar gyfer y cyfarfodydd cyntaf a'r papurau ategol.  Rydym yn gobeithio cynnal cyfarfodydd cychwynnol ar gyfer y Cyd-bwyllgor a'r Bwrdd Strategaeth Economaidd erbyn diwedd Ionawr neu ddechrau Chwefror.

Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar chwe thema ar gyfer prosiectau/pecynnau posibl ar gyfer y fargen twf.  Fel yr esboniwyd mae'r rhain yn ymwneud â chasgliadau papur AECOM sy'n amlinellu'r Strategaeth Economaidd Ranbarthol ar gyfer Rhanbarth Canolbarth Cymru.

Dyma'r chwe thema ar gyfer y prosiectau/pecynnau a gytunwyd yng nghyfarfod anffurfiol diwethaf y Cyd-Gabinet:-

      Twf busnes Sefydlu pecyn buddsoddi arloesol mewn safleoedd ac eiddo wedi’u targedi i weithredu fel galluogydd allweddol i gyflenwi pecyn y Fargen Twf. 

      Sgiliau:  Sefydlu Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol er mwyn creu Canolbarth Cymru arloesol a medrus.

      Twristiaeth a Digwyddiadau:  Sefydlu rhaglen buddsoddi strategol i gefnogi'r economi twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru.

      Seilwaith:  Sefydlu Canolbarth Cymru cysylltiedig ac unigryw trwy gyfrwng ymyraethau yn y seilwaith digidol a rheilffyrdd a mathau eraill o seilwaith allweddol.

      Amaethyddiaeth / bio-ddiogelwch:  Datblygu a manteisio i'r eithaf ar rôl arweiniol Canolbarth Cymru yn y bio-economi.

      Ynni Carbon Isel:  Sicrhau bod ynni fforddiadwy yn cael ei ddarparu ar gyfer cartrefi a busnesau Canolbarth Cymru.

 

 

 

Y Camau Nesaf

·         Fel y soniwyd yn gynharach yn y papur briffio hwn, mae'n rhaid i ni adeiladu ar waith AECOM er mwyn parhau i nodi'r meysydd strategol hynny o allu sydd â’r potensial o lwyddo fel themâu posibl ar gyfer y Fargen Twf.

·         Cyfranogiad busnesau preifat er mwyn nodi a diffinio'r prosiectau/pecynnau ar gyfer y Fargen Twf.

·         Adolygiad ac adborth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y prosiectau/pecynnau posibl. Os ydynt yn dderbyniol gall gwaith ddechrau ar yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer pob prosiect/pecyn i'w gynnwys o fewn dogfen gynigion gyffredinol.

·         Ceisio cymorth a chytundeb Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer aelodaeth arfaethedig o'r Bwrdd Strategaeth Economaidd.

·         Gobeithiwn gynnal cyfarfodydd cyntaf y Cyd-bwyllgor a'r Bwrdd Strategaeth Economaidd cyn gynted â phosibl.

Rydym yn ymwybodol fod angenrheidiau strategol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer cyllid y Fargen Twf y mae'n rhaid i ni gydymffurfio âhwy:-

o   Galw gan y sector preifat a chefnogi prosiectau.

o   Arloesedd ac entrepreneuriaeth.

o   Creu swyddi da a gwerth economaidd (swyddi gwerth uchel, safon uchel).

 

Bydd twf busnes hefyd yn dibynnu ar ein sefyllfa benodol ni yng Nghanolbarth Cymru fel economi wledig:-

 

o   Rhaid i ni greu graddfa ystyrlon a chysylltiad â’r raddfa yn ein daearyddiaeth wledig.

o   Bod tai ar gyfer y gweithlu a gweithlu'r dyfodol yn y lle iawn ac yn fforddiadwy.

o   Ynni carbon isel a chost isel digonol i bweru twf busnes.

o   Cysylltedd ein mannau ffisegol a digidol a'r gweithlu.

o   Y mannau a'r safleoedd cywir ar gyfer busnesau.

o   Mynediad i farchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol mwy o faint.

 

Gyda chymorth ac arweiniad gan bob un o'n rhanddeiliaid rydym yn canolbwyntio ar gael y cyfleoedd gorau i'w datblygu ar gyfer twf economaidd tymor byr, canolig a hir Rhanbarth Canolbarth Cymru.